Telerau Defnyddio’r Wefan
Mae’r Mapiau ar y Wefan hon wedi’u darparu at ddefnydd yn ymwneud ag etholiadau. Mae eich defnydd chi o’r Wefan yn dynodi eich bod yn derbyn y telerau isod.
Gwybodaeth Amdanom Ni
Mae’r Wefan www.election-maps.co.uk yn berchen i ac yn cael ei gweithredu gan yr Ysgrifennydd Gwladol dros Gymunedau a Llywodraeth Leol, yn gweithredu drwy’r Arolwg Ordnans, Adanac Drive, Southampton, SO16 0AS, UK (‘ni’, ‘ninnau’ neu ‘Yr Arolwg Ordnans’).
Yr Arolwg Ordnans yw asiantaeth fapio genedlaethol Prydain Fawr.
Darperir mapiau Gogledd Iwerddon gan Land & Property Services, sef yr asiantaeth fapio swyddogol ar gyfer Gogledd Iwerddon, â’i phrif ganolfan fusnes yw Colby House, Stranmillis Court, Malone Lower, Belfast BT0 5BJ.
Gallwn ddiwygio’r Telerau hyn unrhyw bryd drwy ddiweddaru’r dudalen hon. Dylech wirio’r Wefan o dro i dro er mwyn adolygu’r Telerau diweddaraf, gan eu bod yn eich rhwymo.
1 Defnyddio Mapiau
1.1 Y Goron sy’n berchen ar yr hawliau, y teitl a’r buddiant yn ac i’r Wefan a’i chynnwys (ac eithrio’r mapiau sydd wedi’u trwyddedu gan Land & Property Services), gan gynnwys pob hawlfraint, nod masnach (cofrestredig ac anghofrestredig) a’r holl hawliau eiddo deallusol eraill. Cedwir yr holl gyfryw hawliau.
1.2 Ac eithrio delweddau Raster Lliw Graddfa 1:50 000 a data mapio Gogledd Iwerddon, mae’r data mapio sydd ar gael ar y Wefan ar gael ar OpenData OS ac mae’n amodol ar delerau Trwydded OpenData OS.
1.3 Rhaid i unrhyw ddefnydd a wnewch o fapiau ar y Wefan hon ddangos y gydnabyddiaeth ganlynol:
- Yn achos mapiau Lloegr, Cymru a’r Alban:
- Yn achos mapiau Gogledd Iwerddon ar y rhyngrwyd neu at ddefnydd printiedig mewn fformat gydag arwynebedd llai na 200 centimetr sgwâr:
- Yn achos mapiau Gogledd Iwerddon at ddefnydd printiedig mewn fformant gydag arwynebedd mwy na 200 centimetr sgwâr:
Cynhyrchwyd y ddelwedd o’r map o wasanaeth electionmap yr Arolwg Ordnans © Hawlfraint y Goron a hawl cronfeydd data 2011
© Hawlfraint y Goron a hawl cronfeydd data 2011 MOU 402
Hawlfraint y Goron yw hwn ac fe’i hatgynhyrchir gyda chaniatâd Land & Property Services o dan awdurdod wedi’i ddirprwyo gan Reolwr Llyfrfa Ei Mawrhydi, © Hawlfraint y Goron a hawl cronfeydd data 2011 MOU 402
2 Cynnwys Cyfyngedig
Mae eich defnydd o unrhyw gynnwys y Wefan nad yw’n OpenData OS (‘Cynnwys Cyfyngedig’), gan gynnwys mapiau Raster Lliw Graddfa 1:50 000 a mapiau Gogledd Iwerddon, yn amodol ar y telerau ychwanegol canlynol:
2.1 Gallwch wneud defnydd rhesymol o unrhyw Gynnwys Cyfyngedig ar y Wefan at ddibenion sy’n ymwneud â dangos ffiniau etholaethau ac ethol cynrychiolwyr i unrhyw gorff seneddol neu gorff llywodraeth leol y DU, gan gynnwys:
- ymchwil bersonol;
- ymgyrchu a chanfasio, gan gynnwys cyhoeddi mapiau mewn llenyddiaeth etholiad;
- cyhoeddi ar wefannau anfasnachol sy’n ymwneud ag etholiadau;
- addysgu disgyblion mewn sefydliadau addysgol cydnabyddedig am y broses etholiad.
2.2 Ac eithrio fel y pennir yn benodol yn y Telerau hyn, ni allwch:
- atgynhyrchu, copïo, addasu, peiriannu o chwith, lawrlwytho, darlledu na chyhoeddi unrhyw ran o’r Cynnwys Cyfyngedig;
- gwerthu, ailwerthu neu ddefnyddio mewn ffordd arall unrhyw Gynnwys Cyfyngedig at ddibenion masnachol.
2.4 I gael caniatâd i ddefnyddio Mapiau Land & Property Services at unrhyw ddibenion eraill, cysylltwch â Land & Property Services yn y cyfeiriad uchod neu yn copyright@osni.gov.uk.
3 Dolennu
3.1 Gallwch ddolennu i’r Wefan os sicrheir:
- nad ydych yn cam-gynrychioli eich perthynas gyda’r Arolwg Ordnans neu’n cyflwyno unrhyw wybodaeth ffals amdanom, gan gynnwys drwy ymhlygu’n gamarweiniol unrhyw fath o gysylltiad, cymeradwyaeth neu ardystiad o’ch gwefan, sefydliad, cynhyrchion neu wasanaethau gan yr Arolwg Ordnans;
- nad ydych yn dolennu i’r Wefan mewn ffordd sy’n debygol o roi i’ch defnyddwyr yr argraff mai eich cynnwys chi yw ein cynnwys ni;
- nad ydych yn creu ffrâm nac unrhyw borwr neu amgylchedd border arall o amgylch y Wefan;
- nad yw’r wefan yr ydych yn dolennu oddi wrthi yn cynnwys unrhyw gynnwys sy’n anghyfreithlon neu’n anweddus, neu sy’n troseddu yn erbyn unrhyw hawliau eiddo deallusol neu hawliau eraill.
3.2 Gallwn ddileu eich caniatâd i ddolennu i’r Wefan heb rybudd.
3.3 Mae unrhyw wefannau trydydd parti y dolennwn iddynt y tu hwnt i’n rheolaeth ni ac nid ydym yn derbyn unrhyw gyfrifoldeb am eu cynnwys.
4 Ymwadiad ac Atebolrwydd
4.1 Darparwn i chi fynediad di-dâl i’r Wefan a’r cynnwys ar sail ‘fel ag y mae’, ac nid ydym yn rhoi unrhyw warantau na gwarantiadau ynglŷn â’i argaeledd, cywirdeb, cyflawnrwydd neu berfformiad.
4.2 Gallwn wneud newidiadau i’r Wefan a’i chynnwys, a gallwn ei diddymu neu atal mynediad iddi dros dro, unrhyw bryd heb roi rhybudd.
4.3 Nid ydym yn gwarantu bod y Wefan na’r gweinyddwr sy’n trefnu ei bod ar gael yn rhydd rhag firysau neu fygiau. Eich cyfrifoldeb chi yw gweithredu unrhyw weithdrefnau a gwiriadau firws i fodloni eich gofynion eich hun.
4.4 I’r graddau mwyaf a ganiateir gan y gyfraith, mewn perthynas â’r Wefan, ei chynnwys, a’n rhwymedigaethau ni o dan y telerau hyn, mae’r Arolwg Ordnans a Land & Property Services yn eithrio:
- pob cynrychiolaeth, gwarantiadau a thelerau eraill (pa un a ydynt yn ddatganedig neu’n oblygedig gan y gyfraith); ac
- unrhyw atebolrwydd am unrhyw golled neu ddifrod a gafwyd gan unrhyw ddefnyddiwr (gan gynnwys unrhyw golli data, colli elwau, enw da neu ewyllys da, arbedion a ragwelir, busnes, neu golledion a ddioddefwyd gan drydydd partïon), boed yn uniongyrchol, anuniongyrchol, arbennig, damweiniol neu ganlyniadol, hyd yn oed os gellir eu rhagweld, a pha un â’u hachoswyd gan gamwedd (gan gynnwys esgeuluster), torri contract neu fel arall.
4.5 Nid oes unrhyw beth yn y Telerau hyn yn ceisio eithrio neu gyfyngu ar atebolrwydd am farwolaeth neu anaf personol a achoswyd gan esgeuluster, twyll, neu unrhyw atebolrwydd na ellir ei eithrio neu’i gyfyngu o dan y gyfraith berthnasol.
5 Cyffredinol
5.1 Caiff y Telerau hyn eu rheoli a’u dehongli yn unol â chyfreithiau Cymru a Lloegr, a bydd ganddynt awdurdodaeth unigryw dros unrhyw anghydfodau.
5.2 Os oes gennych unrhyw gwestiynau ynglŷn â’r Wefan neu’r Telerau hyn, cysylltwch â ni yn ysgrifenedig yn Customer Services, Ordnance Survey, Adanac Drive, Southampton SO16 0AS neu drwy e-bost: customerservices@ordnancesurvey.co.uk.